Croeso i Ŵyl Ddylunio Caerdydd

Dathlu Dylunio. Dathlu Caerdydd.

Y mis Hydref yma rydym eisiau herio ac ehangu diffiniad dylunio yng Nghaerdydd. Rydym eisiau dathlu doniau dylunio’r ddinas wrth arbrofi a chydweithio â dylunwyr o bob math. Rydym eisiau rhannu’r gwaith gwych a gynhyrchir yn ein dinas a’n gwlad i ysbrydoli ein cymuned greadigol. Yn wreiddiol, cynhaliodd yr ŵyl am bron i ddegawd rhwng 2005 a 2013 gydag Ysgol Celf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn arwain y ffordd. Gydag arweiniad a chefnogaeth gan y Deon presennol, Olwen Moseley, mae'r ŵyl yn dychwelyd blwyddyn yma gyda thîm mwyach fyth o unigolion ac asiantaethau creadigol lleol i wneud i’r cyfan ddigwydd unwaith eto.

Mae pethau wedi symud ymlaen, mae yna gymuned greadigol fwy bywiog nag erioed ac rydyn ni’n gweld cyfle newydd i ddathlu a chanolbwyntio ar dalent ddylunio Caerdydd. Mae’r gymuned nawr yn fwy amrywiol ac mae ffiniau rhwng diffiniadau traddodiadol o ddylunio ac ymdrechion creadigol eraill wedi parhau i ddod yn anoddach fyth i’w diffinio. Credwn fod dylunio yn ganolog i greu cymunedau hapus a chreu profiadau hyfryd yn ein bywydau yn ddyddiol.

Rydym eisiau rhannu’r gwaith gwych a gynhyrchir yn ein dinas a’n gwlad i ysbrydoli ein cymuned greadigol.

Darganfod, arddangos ac ysbrydoli talent dylunio Cymraeg.

Ein nodau

1. Herio’r diffiniad o ddylunio


Rydym eisiau cynrychioli dylunio a’i holl ffurfiau, hen a newydd. Mae dylunio yn cael ei effeithio gan bopeth, o dechnoleg i newid cymdeithasol. Rydym eisiau dangos sut y gall dylunio wneud bywyd yn well ac, yn y pen draw, yn harddach.

2. Dathlu Caerdydd


Mae cymuned greadigol Caerdydd yn ffynnu ac mae cymaint i ddathlu. Rydym eisiau cymryd yr amser i fwynhau’r prosectau dylunio sydd gan y ddinas i’w cynnig ac i ysbrydoli hyd yn oed mwy ohonynt.

3. Estyn allan ac arddangos talent leol


Roedd gwahoddiad agored i’r gymuned ddylunio a chreadigol leol gyflwyno syniadau ar gyfer digwyddiadau. Gallai’r rhain fod ar unrhyw siâp neu ffurf. Y canlyniad bydd amserlen sy’n mynd i fod mor amrywiol â’n cymuned ddylunio wych.

4. Annog i gymryd rhan


Mae ein dull yn un agored, cynhwysol a croesawgar. Rydym eisiau helpu i annog cydweithredu drwy hwyluso digwyddiadau, arddangosfeydd, gweithdai a llawer mwy. Rydym yn gweld potensial enfawr i wneud cysylltiadau a rhannu profiad, arbenigedd a chreadigrwydd.

Y Hwb

Dewch yn llu!

Byddwn yn cynnal Hwb yng Nghaerdydd i weithredu fel man cyfarfod canolog. Cewch ddod yma i ddarganfod mwy o wybodaeth am yr ŵyl, cael ychydig o goffi a dweud helo i wynebau cyfeillgar.

Gweld mwy

Cwestiynau Cyffredin

Ar hyd a lled Caerdydd! Trefnir pob digwyddiad gan ei drefnwyr priodol, sy'n golygu eu bod yn dewis y lleoliad hefyd. O stiwdios a llwyfannau i arcedau a siopau coffi, bydd yr ŵyl yn digwydd ledled y ddinas.⁣

Nid oes band arddwrn na thocyn sydd yn eich gadael fewn i bob digwyddiad - yn lle hynny, mae pob digwyddiad yn cael ei drefnu'n unigol gan ei westeiwr. Bydd rhai digwyddiadau yn rhad ac am ddim, tra bydd eraill yn cael cost fach neu angen tocyn. I ddarganfod os oes angen i chi brynu tocyn ar gyfer digwyddiad, edrychwch ar ei dudalen drosodd ar ein gwefan.⁣

Mae rhai manylion digwyddiadau yn dal i gael eu cwblhau, sy'n golygu efallai na fydd rhai lleoliadau neu fanylion tocynnau ar ein gwefan eto - ond mi fyddant yn fuan iawn!⁣

Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, rydym yn argymell cysylltu â threfnydd eich digwyddiad i gael mwy o wybodaeth. Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau'r ŵyl yn llawn, yn anffodus mae rhai cyfyngiadau y tu hwnt i'n rheolaeth.

Wrth gwrs! Mae'n rhy hwyr i gymryd rhan fel gwesteiwr nawr mae gennym ein hamserlen llawn dop, ond rydyn ni bob amser yn fwy na pharod i noddwyr a gwirfoddolwyr newydd ymuno â'r gang! I ddarganfod mwy, ewch i'n gwefan neu gyrrwch neges atom. Rydyn ni'n neis - onest!