Dyma'ch gŵyl ddylunio chi.

Tydi hi ddim yn rhy hwyr i gymryd rhan yn yr ŵyl. Mae ein hamserlen wedi’i llenwi ond mae yna lawer o ffyrdd eraill i gyfrannu a chymryd rhan. Rydyn ni eisiau annog cydweithredu a dechrau sgyrsiau, felly os yw ein gŵyl wedi peri ichi feddwl, yna cysylltwch â ni - byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

Sut y gallwch chi gymryd rhan

Gallwch ein helpu i sicrhau bod yr ŵyl yn cynrychioli Caerdydd yn ei holl ysblander amrywiol. Efallai yr hoffech chi ddod yn bartner neu’n noddwr. Efallai eich bod am gynnal digwyddiad, ein gwahodd i ddefnyddio’ch lle neu rannu eich gwaith dylunio.

Card image

Cydweithrediadau yn y dyfodol

Oes gennych chi syniad ar gyfer digwyddiad yn y dyfodol, neu a oes gennych chi le y credwch fyddai’n siwtio’r gymuned ddylunio wrth i ni symud ymlaen? Mae ein cymuned ni, fel pob un arall, yn newid ac yn tyfu bob dydd, felly mae croeso mawr i unrhyw awgrymiadau neu syniadau. Dydych chi byth yn gwybod lle gallai fynd a chi - mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!

Cysylltwch â ni
Card image

Cefnogi’r ŵyl

Hoffech chi gefnogi’r ŵyl a dod yn noddwr? Ni allai Gŵyl Ddylunio Caerdydd ddigwydd heb ein cefnogwyr a’n ffrindiau hael. Efallai bod gennych chi gynnyrch yr hoffech chi ei rannu gyda’r diwydiant, neu wasanaeth y gallech chi ei gynnig i’n mynychwyr? Efallai y gallech chi gyfrannu gyda gostyngiad neu dalebau ar gyfer yr ŵyl i helpu i ledaenu’r gair am eich busnes. Cysylltwch â ni os hoffech chi ffurfio partneriaeth a dod yn rhan o lunio cymuned ddylunio Caerdydd.

Cysylltwch â ni
Card image

Ymunwch â'r tîm

Rydyn ni’n griw cyfeillgar ac yn agored iawn i wirfoddolwyr ymuno a’n tîm. Os hoffech chi helpu yn un (neu fwy!) o’n digwyddiadau, yna rhowch wybod i ni. Dyma gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd o’r gymuned ddylunio a thu hwnt yn ogystal â chyfle i ddysgu sgiliau newydd a chyfrannu at y gymuned.

Cysylltwch â ni
Card image

Ymweld â’r Hwb

Dewch i’r Hwb, dywedwch helo a darganfod mwy am yr ŵyl. Yma byddwch chi’n gallu cael sgwrs am unrhyw syniadau sydd gennych chi, neu gael coffi a chwrdd â rhai wynebau newydd.

Gweld mwy