Taith Beicio.
Digwyddiad diogel a chynhwysol wedi'i anelu at bobl sydd ddim fel arfer yn beicio yn ogystal â beicwyr rheolaidd – byddwn ni'n cadw oddi ar y ffordd trwy ddefnyddio llwybrau beicio o amgylch Bae Caerdydd. Byddwn yn gorffen trwy greu dyluniad cymunedol yn ymwneud â thema beicio. Dewch â beic neu logi NextBike.