Grid Pedwar Deg Pump

Am ddim!

Dydd Iau 10 Hydref, Dydd Gwener 11 Hydref, Dydd Sadwrn 12 Hydref, Dydd Sul 13 Hydref
10:00 - 17:00

Arddangosfa, 10 – 13 Hydref.

Arddangosfa arbrofol o ffotograffiaeth a phensaernïaeth sy’n defnyddio gridiau i greu darnau unigryw o waith celf.

Ganwyd arddangosfa Grid Forty Five allan o gariad at ffotograffiaeth a phensaernïaeth yn ogystal â’r mwynhad sydd i’w gael drwy weld eich dinas mewn ffordd ychydig yn wahanol. Yn lle canolbwyntio ar adeiladau yn eu cyfanrwydd, mae’r arddangosfa’n dathlu’r manylion llai, mwy cynnil a all ffurfio ei gymeriad a’i deimlad.

Bydd yn digwydd ledled Caerdydd a bydd yn rhad ac am ddim i’w weld yn y gadwyn goffi annibynnol KIN + ILK; fel hyn rydym yn gobeithio y bydd mynychwyr yr ŵyl yn cael cyfle i edrych ar ein gwaith celf wrth iddynt fwynhau coffi rhwng digwyddiadau dros y penwythnos.