WTF is Motion Design / Sesiwn Galw-Heibio

Am ddim

Dydd Gwener 11 Hydref
14:00 - 15:00

Ail ran digwyddiad dwy ran yn ymwneud â phwysigrwydd symudiad o fewn dylunio.

Gyda’r ymchwydd mewn cynnwys symudol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, p’un ai mewn dylunio neu fideo, mae dylunio symudol wedi dod yn fwy cyffredin i frandiau heddiw i ddal yr hyn sydd ar ôl o’n rhychwant sylw a chyfleu syniadau yn gyflymach, ac yn fwy effeithiol. Bydd y tîm dylunio mewnol o Storm & Shelter ar gael ar ôl eu sgwrs am sesiwn galw heibio a chwestiynau.

Mae Izzy, Eryn ac Alex yw tim dylunio symudiad Storm & Shelter. Izzy yw ein dylunydd iau sy'n hoff o fwyd ac y gampfa sydd newydd ymuno gyda’r Gymdeithas Ryngwladol y Dylunwyr Teipograffig. Neis! Eryn yw ein dewin graffeg symudol - person di-lol, hunan-ysgogol gyda phenderfyniad penodol am ddod â siapiau 2D yn fyw. Mae Alex yn arwain y tîm gan dynnu o'i brofiad a gafwyd gan sawl asiantaeth ddylunio flaenllaw yn Llundain. Gyda'i gilydd, trwy gydol eu gyrfaoedd maen nhw wedi creu llwyth o gynnwys ar gyfer rhai o'r brandiau mwyaf ar y blaned, fel O2, Twitter, McLaren, BAE Systems a GlaxoSmithKlein i enwi ond ychydig.